Text Box: Alun Davies AC
 Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
 Llywodraeth Cymru
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd CF99 1NA 22 Medi, 2016

Annwyl Weinidog

Sesiwn graffu: Blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad

Diolch i chi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 14 Medi ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.  Yn gyntaf, hoffwn eich llongyfarch ar eich penodiad a chynnig dymuniadau gorau'r Pwyllgor i chi wrth gyflawni eich cyfrifoldebau newydd.

Fel y byddwch yn sylweddoli, roedd y sesiwn yn gyfle cyntaf i’r Pwyllgor ymgyfarwyddo â'ch cyfrifoldebau ac i’ch holi am eich blaenoriaethau presennol.  Mae'r Pwyllgor yn dal i ffurfio ei flaenoriaethau ei hun ar gyfer craffu ac adolygu polisi.  Rwy'n gwybod bod y Pwyllgor yn edrych ymlaen at y cyfle i’ch holi yn fanylach ar agweddau penodol o'ch cyfrifoldebau pan fydd ein rhaglen waith yn gliriach.

Mae swyddogion y Pwyllgor eisoes wedi bod mewn cysylltiad â'ch swyddogion i fynd ar drywydd rhai addewidion a wnaed gennych yn y cyfarfod.  Fe wnaethant ofyn yn benodol:

-        i chi ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am rannu'r cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg rhyngoch chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.


 

-        i chi ddarparu rhagor o wybodaeth inni am yr amserlen ar gyfer datblygu'r strategaeth iaith Gymraeg; ac

-        i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddarparu rhagor o wybodaeth am gylch gwaith Adolygiad Donaldson mewn perthynas â'r continwwm addysg Gymraeg;

Ar y pwynt olaf hwn, byddai'r Pwyllgor hefyd yn ddiolchgar am unrhyw eglurhad pellach y gallwch ei roi ynglŷn â’r hyn a olygir gan 'continwwm' yn y cyd-destun hwn. 

Fel y gwyddoch, yn gynharach yn ein cyfarfod, fe wnaethom hefyd gymryd tystiolaeth gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Roedd y Pwyllgor braidd yn ddryslyd o ran pa Weinidog sydd â chyfrifoldeb am y 'Fforwm Cyfryngau',  y cyfeiriwyd ato yn eich tystiolaeth ysgrifenedig chi ac Ysgrifennydd y Cabinet.  Efallai bod y dryswch yn ymwneud yn syml â therminoleg.  Fodd bynnag, tybed a fyddai'n bosibl i chi egluro'r sefyllfa?

Ar 15 Medi gosododd Karen Bradley AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ddrafft o'r Siarter Frenhinol newydd ar gyfer y BBC gerbron y Senedd.  Mae'n amlwg bod llawer yn hon y bydd y Pwyllgor yn dymuno ei ystyried wrth i'r broses o adnewyddu’r Siarter fynd rhagddi. 

Fodd bynnag, mae'r Siarter ddrafft yn cadarnhau’r bwriad y bydd un aelod o Fwrdd newydd y BBC yn aelod dros Gymru, a fydd yn cael ei gytuno gan Weinidogion Cymru.  Mae'r Pwyllgor yn credu y byddai rhinwedd sylweddol i’r Cynulliad Cenedlaethol, drwy'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, gael rhan yn y broses gadarnhau.  Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar am eich meddyliau cyntaf ar hyn.


 

Edrychaf ymlaen at eich ymateb.  Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn er gwybodaeth at Ken Skates mewn perthynas â'r Fforwm Cyfryngau.  Yr wyf hefyd yn anfon copi o hwn at Karen Bradley gyda chais ei bod yn rhoi ei barn i ni ar y pwynt uchod am y broses benodi a chadarnhau'r aelod o'r Bwrdd dros Gymru.

Yn gywir

Bethan Jenkins AC

Cadeirydd